Sut ydw i’n cyrraedd safle’r digwyddiad?

Sut i gyrraedd ar fws ​​​​​
Mae safle bws wrth fynediad y safle. Bydd bysus yn rhedeg yn gyson o nifer o ardaloedd yng Nghaerdydd at y Bae. Ewch i wefan Bws Caerdydd am ragor o fanylion http://www.cardiffbus.com/.

 

Sut i gyrraedd ar drên
Mae gorsaf drenau Bae Caerdydd tua 5 munud o gerdded o’r safle. Mae trenau yn rhedeg yn gyson o Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan National Rail https://www.nationalrail.co.uk/.

 

Sut i gyrraedd mewn car  ac opsiynau parcio
Gellir cyrraedd y Bae mewn car ac mae nifer o feysydd parcio bach yn agos at safle'r digwyddiad. Gallech hefyd barcio yng nghanol y ddinas a cherdded neu ddal bws neu drên i'r Bae. I gael yr holl wybodaeth am barcio yng Nghaerdydd a’r Bae ewch i wefan Cyngor Caerdydd. https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/parking/Car-parks/Pages/Car-Parks.aspx.

 

Sut i gyrraedd wrth gerdded/beicio
Mae safle'r digwyddiad tua ugain munud o gerdded o Ganol Dinas Caerdydd a bydd man cadw beiciau ar y safle i chi gadw eich beic yn saff.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×