Yn dilyn llwyddiant ysgubol BMX, Sglefrfyrddio a Phêl-fasged 3x3 yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 bydd y digwyddiad hwn yn arddangos a dathlu’r chwaraeon Olympaidd newydd a chyffrous hyn yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n rhan o’r sin trefol.
Bydd Gemau Stryd yr Urdd yn cymryd dros Roald Dahl Plass yng nghalon Bae Caerdydd. Mi fydd y lleoliad adnabyddus hwn yn cael ei drawsnewid i fod yn arena gweithgareddau trefol ar gyfer penwythnos o gystadlu a gweithgaredd.
Ers yn 10 mlwydd oed, mae Lily Rice wedi defnyddio cadair olwyn - i ennill pencampwriaethau’r byd, dod yn y fenyw gyntaf yn y DU i wneud fflip cefn, chwalu rhagfarnau ac ysbrydoli eraill.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now