Gwnaeth bowldro dechrau fel ffordd i ddringwyr ymarfer symudiadau penodol mewn ffordd ddiogel. Ers hyn mae wedi datblygu mewn i gamp ei hun gyda bowldro dan do yn cael ei ychwanegu i'r calendr Gemau Olympaidd yn Tokyo 2021.
Mae Gemau Stryd yr Urdd yng nghyffrous i ychwanegu dringo i ein casgliad o gystadlaethau. Bydd yr Urdd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Tafwyl a fydd yn dod a cherddorion a DJ's i'r safle i ddarparu'r gerddoriaeth. Mae croeso i ddringwyr newydd neu brofiadol i gymryd rhan a chystadlu mewn digwyddiad llawn dringo a cherddoriaeth.
Mae'r Urdd yn gweithio gyda Flashpoint a Chymdeithas Fynydda Prydain i greu llwybrau dringo cyffrous i ddringwyr o bob safon.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now