Lilly Rice

Lilly Rice

WCMX

Dwed ychydig bach am dy gefndir a ble cest ti dy eni a’th fagu.

Cefais fy ngeni a’m magu yn Sir Benfro ac es i i’r ysgol yn Ninbych-y-pysgod. Rydw i wedi mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini erioed, fy mhrif gampau yw WCMX a Nofio. 

 

Wyt ti’n siarad Cymraeg ac wyt ti wedi ymwneud â’r Urdd yn y gorffennol?

Dydw i ddim yn siarad Cymraeg ond rydw i wedi cyfrannu i nifer o brosiectau’r Urdd gan gynnwys Neges Heddwch ac Ewyllys da yr Urdd a chynhadledd #FelMerch. Dw i hefyd wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau chwaraeon yr Urdd, mae cymaint o ffyrdd cŵl i fod yn rhan o’r Urdd.  

 

Beth wnaeth dy ysbrydoli i gymryd rhan mewn WCMX?

Gweld fideo ar lein wnes i a meddwl ei fod yn edrych yn cŵl ac eisiau rhoi cynnig arni. Llwyddais i lanio fflip am nôl  am y tro cyntaf ar ôl 4 mis o ymarfer sy’n eithaf cŵl ac mae pethau wedi datblygu ers hynny. Rydw i wrth fy modd! 

 

Pa mor anodd yw hi a beth yw’r elfen fwyaf heriol?

Dw i’n meddwl mai’r peth anoddaf mewn unrhyw gamp yw hunanhyder, yn enwedig ym myd campau eithafol. Mae hyder yn bendant yn hanfodol, fodd bynnag mae modd magu hyder drwy ddechrau gyda chamau bach a gweithio dy ffordd i fyny yn raddol. Rho gynnig arni!

 

Sut fyddet ti’n disgrifio’r gamp i unrhyw un sydd heb weld na chlywed am WCMX?

Yn syml, sglefrfyrddio ar gadair olwyn yw WCMX. Rydw i’n addasu fy nhriciau o sglefrfyrddio a champau olwyn eraill y parc sglefrio er mwyn creu triciau sy’n benodol ar gyfer WCMX. Mae fy nghadair olwyn wedi ei chreu’n arbennig ar gyfer y gamp gydag ataliad ac olwynion bwrdd sglefrio, ond dyw hynny ddim yn angenrheidiol i ddechrau.

 

 A oes digon o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y gamp? Oes angen tynnu mwy o sylw at WCMX?

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn help aruthrol o ran cynorthwyo pobl anabl yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon. Maen nhw’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc i roi cynnig ar amrywiaeth o gampau drwy eu prosiect insport, ac rydw i wedi bod yn helpu i hyrwyddo WCMX fel rhan o hyn. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda USA Skateboarding a Skateboard GB i gael cynnwys WCMX a Sglefrfyrddio Addasol yn y Gemau Paralympaidd.

 

Pryd y gwnest ti ddechrau cystadlu a beth yw’r uchafbwyntiau hyd yn hyn?

Dechreuais gystadlu mewn cystadlaethau WCMX yn 2018 gan ddod yn bencampwraig Ewrop y flwyddyn honno ac yna yn bencampwraig WCMX y Byd yn 2019.

 

Wyt ti’n cystadlu mewn unrhyw gamp arall neu wedi gwneud yn y gorffennol? 

Ydw! Dw i hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau nofio i bobl anabl ar lefel ryngwladol. Rydw i wedi bod yn ffodus i gael teithio dramor gyda Nofio Cymru i gynrychioli Cymru/Prydain Fawr ac roedd hynny’n cŵl!

 

Sut wyt ti’n teimlo am Gemau Stryd yr Urdd a pham ei bod yn bwysig i gynnal digwyddiad fel hwn yng Nghymru?

Mae’n bwysig i gael digwyddiadau fel Gemau Stryd yr Urdd yng Nghymru gan ei fod yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac yn cynyddu’r nifer o bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc. Mae iechyd meddwl yn bwnc mawr ar hyn o bryd, ac mae tystiolaeth yn dangos y gall chwaraeon ac ymarfer corff helpu i wella iechyd meddwl unigolion felly'r gorau po fwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan!

 

Byddi di’n arwain rhai sesiynau i roi blas ar y gamp yn ystod y penwythnos, a all unrhyw un gymryd rhan a beth fyddi di’n ei ddysgu iddynt? Oes angen iddyn nhw ddod ag unrhyw beth penodol?

Gall unrhyw un gymryd rhan mewn WCMX a Sglefrfyrddio Addasol ac mae digwyddiadau fel Gemau Stryd yr Urdd yn fan cychwyn perffaith.  Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw helmed ac agwedd bositif!!

 

Yn olaf, beth yw dy gyngor di i bobl eraill sy’n awyddus i gymryd rhan yn y gamp?

Dw i’n credu ei bod yn bwysig i gadw at yr hyn yr ydych yn gyfforddus yn ei wneud a pheidio â gwthio eich hun yn rhy bell. Does dim angen cadair olwyn WCMX arnoch chi i ddechrau, ond mae offer diogelwch fel helmet, padiau pen-glin a phenelin yn bwysig iawn, yn enwedig wrth ddysgu.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×