Holly Pipe

Holly Pipe

Sgwter

Dwed ychydig bach wrthym am dy fagwraeth a dy brofiad blaenorol gyda’r Urdd 

Rwy’n 18 oed ac wedi byw ym Medwas, Caerffili gydol fy oes. Es i i Ysgol Cymraeg Castell ac yna ymlaen i Ysgol Gwyndy, felly ces i fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Roeddwn yn aelod o’r Urdd yn yr ysgol, a dw i’n cofio cystadlu yng nghystadleuaeth yr ymgom ym mlwyddyn 5 a mynd i’r Eisteddfod yn y Bala ac roedd hynny’n hwyl. Tra’r oeddwn yn yr ysgol uwchradd fe wnes i wirfoddoli gydag adran chwaraeon yr Urdd, ac fe wnes i fwynhau’r profiad hwnnw hefyd. Mae’r Urdd yn cynnig cymaint o amrywiaeth o brofiadau i bobl ifanc, dw i wrth fy modd i gael ymwneud â’r Urdd eto eleni gyda’r Gemau Stryd.

 

Pryd dechreuodd y diddordeb mewn reidio sgwter?

Rydw i wedi bod yn gystadleuol erioed, a dw i’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored. Roeddwn yn beicio BMX i ddechrau, yna pan oeddwn tua 10 oed, aeth Dad a fi i barc sglefrio yn Radur. Dw i’n cofio gwylio criw o fechgyn ar sgwteri, roedden nhw’n gwneud pob math o driciau cŵl na allwn eu gwneud ar y BMX ac ro’n i eisiau rhoi cynnig arni. Dydw i ddim wedi stopio ers hynny!


Pryd y gwnest ti ddechrau cystadlu? 

Rhywbeth i’w fwynhau yn fy amser hamdden oedd y sgwter am gwpwl o flynyddoedd. Mae’n gamp gymdeithasol iawn, fel pob un o’r Gemau Stryd, mae’n rhywbeth yr wyt ti’n ei wneud gyda ffrindiau, ac mae’n hobi iach a hwyliog hefyd. Y gystadleuaeth gyntaf i mi gymryd rhan ynddi oedd yn Ramp World yng Nghaerdydd. Ro’n i’n nerfus iawn ond ro’n i wrth fy modd, does dim byd tebyg i’r adrenalin wrth wneud naid uchel!  

 

Beth yw’r uchafbwyntiau i ti hyd yn hyn? 

Mae gen i ddau! Y cyntaf oedd cael fy ngwahodd i Rowndiau Terfynol y Byd ym Marcelona yn 2019. Dyma oedd y tro cyntaf i fenywod gael cystadlu felly roedd y ffaith iddyn nhw fy ngwahodd i a’m cydnabod fel un o reidwyr sgwter benywaidd gorau’r byd yn anhygoel. Mae’n siŵr mai dyma brofiad mwya’ brawychus fy mywyd, yn ogystal â’r profiad gorau.

Yr ail uchafbwynt oedd y tro cyntaf i mi gystadlu yn y Scoot GB, sy’n debyg i Gemau Olympaidd Prydain i gampwyr sgwter! Roeddwn yn cystadlu yn y categori nofis am y tro cyntaf erioed ac fe enillais i. Roeddwn i ar ben fy nigon. Y fath wefr!

 

Rwyt ti wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau BMX yn ddiweddar hefyd? 

Ydw! Dim ond ers rhyw 3 wythnos roeddwn i wedi bod yn ymarfer a llwyddais i gyrraedd y 6ed safle yn fy nghystadleuaeth gyntaf! Rydw i wedi ysbrydoli fy nghariad i roi cynnig arni nawr hefyd. Dyna sut mae cael pobl i gymryd rhan yn y campau yma, mae gwylio eraill yn ennyn eu diddordeb. Dyna pam mae Gemau Stryd yr Urdd mor ffantastig - mae’r Urdd eisoes yn helpu ac yn ysbrydoli plant mewn meysydd eraill ac rwy’n siŵr bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli nifer o blant i gymryd rhan yn y campau hyn, sy’n beth gwych.

 

Rwyt ti’n llawn cyffro ynghylch y Gemau Stryd, felly?

Ydw! A dweud y gwir, ges i dipyn o sioc ac ro’n i’n gyffro i gyd pan glywais am y Gemau. Does dim byd ar y lefel hyn erioed wedi digwydd yng Nghymru. Bydd hi’n wych gweld y sgwter ochr yn ochr â BMX, sglefrfyrddio, breakin’ ac ati.  

Mae rhai o’r campau eraill yn adnabyddus erbyn hyn gan eu bod bellach wedi eu cynnwys yn y Gemau Olympaidd, ac mae’r Urdd yn rhoi llwyfan cyfartal i’n camp ni gael ei chydnabod a’i chymryd o ddifrif, sy’n wych. Rwy’n siŵr y bydd yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddarganfod mwy, i gymryd rhan a hefyd i ystyried y campau yma fel gyrfa posib.


Fyddi di’n cystadlu yno hefyd?

Byddaf! A dweud y gwir, dw i’n eithaf nerfus am hynny, ond yn llawn cyffro hefyd! Bydd hi’n brofiad gwahanol i fi, bydd athletwyr proffesiynol o’r campau eraill yno yn fy ngwylio i, ond byddaf i yn eu gwylio nhw hefyd! O’m nabod i, bydda i eisiau rhoi cynnig ar y campau eraill i gyd ar ôl eu gwylio, felly mae’n wych bod sesiynau am ddim ar gael i roi blas ar y gwahanol gampau – gallwch roi cynnig arni yn y fan a’r lle. 


Yn olaf, beth yw dy gyngor di i blant sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau ar y sgwter?

Cer amdani, rho gynnig arni a phaid â rhoi gormod o bwysau ar dy hun. Os wyt ti’n ymarfer gyda dy ffrindiau yn hytrach na rhoi gormod o bwysau ar dy hun, bydd yn fwy o sbort o lawer. Mae sin y Gemau Stryd yn gymdeithasol iawn, mae’n gymuned arbennig a hwyliog i fod yn rhan ohoni. Rydw i’n gweithio yn Ramp World erbyn hyn, a rhwng fy sifftiau rwy’n ymarfer yno, dw i fwy neu lai yn byw yno! Dw i wir ddim yn gwybod beth fydden i’n ei wneud heb fy sgwter a fy nghymuned, dw i wrth fy modd! Dere i’r Gemau Stryd, rho gynnig arni a phwy a ŵyr i ble all hynny dy arwain!

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×