Jamie Hull

Jamie Hull

Pencampwr Sgwter y DU

Un o ble’r wyt ti?

Rwy’n dod o Widnes, ar y ffin rhwng Swydd Gaer a Lerpwl. Dw i wedi byw yma erioed, ond dw i’n aml yn dod i Gymru i ddefnyddio’r parc sglefrio yng Nglannau Dyfrdwy, mae’n dda iawn yno!

 

Ble dechreuodd y diddordeb mewn reidio sgwter?

Pan oeddwn i’n 9 oed, 11 mlynedd yn ôl bellach. Roeddwn i’n gwylio fideo cŵl iawn o ddyn yn gwneud fflip am nôl ar sgwter, roedd yn anhygoel! Roeddwn i newydd ddysgu sut i wneud fflip am nôl ar y trampolîn felly ro’n i’n meddwl y gallwn i wneud ar sgwter hefyd, ond dyw hi ddim mor hawdd â hynny!

 

Pryd wnest ti ddechrau reidio sgwter?

Ar ôl gweld y fideo a gwybod fy mod i am ddysgu, gofynnais am sgwter yn anrheg Nadolig. Fe gymerodd hi 6 mis i mi ddysgu sut i wneud fflip am nôl, dyw hi ddim yn hawdd gwneud hynny ar rywbeth mor fach â sgwter ond roedd y wefr yn anhygoel! Does dim byd mwy cyffrous na dysgu triciau newydd a chael cefnogaeth a chwtsh gan y dorf, dw i wrth fy modd!

 

Pryd wnest ti ddechrau cystadlu a beth yw’r uchafbwyntiau ar hyd y daith?

Dechreuais gystadlu mewn cystadlaethau amatur yn eithaf buan a chefais fy syfrdanu pan ges i gynnig gan fy noddwr cyntaf – Madd Gear Pro sef y cwmni sgwter mwyaf ar y pryd – dyna oedd fy mreuddwyd! Dw i nawr yn cael fy noddi gan Apex – maen nhw’n anhygoel a dw i’n methu â chredu fy mod i’n cael fy nhalu i wneud yr hyn rwyf wrth fy modd yn ei wneud. Mae’n profi y gallwch, drwy dipyn go lew o waith caled ac ymarfer, wireddu eich breuddwyd. Yn gynharach eleni, enillais Bencampwriaeth Sgwter y DU ac rwy’n hynod o falch o allu dweud mai fi yw’r rhif 1 yn y DU.

 

Pa mor aml wyt ti’n ymarfer?  

Rydw i’n reidio mewn parc sglefrio gwahanol bob dydd a dw i’n mynd i’r gampfa bob dydd hefyd. Mae cryfder craidd a breichiau cryf yn hanfodol, dyna sut mae modd gwneud y triciau mawr, y rhai gwirioneddol drawiadol hynny, sy’n creu argraff ar bobl, mae’n waith caled ond dw i wrth fy modd.

 

Rwyt ti hefyd yn frwd iawn dros ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn y DU

Ydw, mae plant wrth eu boddau ar sgwter ac mae’n ffordd dda o gadw’n heini wrth gael hwyl. Mae cofio nôl i’r cyfnod hwnnw pan oeddwn yn 9 oed a chael fy ysbrydoli gan y fideo hwnnw wedi aros gyda fi felly dw i’n awyddus i drosglwyddo fy sgiliau ac ysbrydoli plant ar hyd a lled y wlad. Rwy’n treulio tipyn o amser mewn ysgolion, yn gwneud demos ac yn helpu plant i ddysgu sgiliau newydd.

 

Ai dyma’r rheswm yr oeddet ti mor awyddus i fod yn rhan o Gemau Stryd yr Urdd?

A dweud y gwir, dw i’n methu aros tan Gemau Stryd yr Urdd. Mae’n beth da bod yr Urdd wedi trefnu’r Gemau Stryd fel digwyddiad aml-genhedlaeth, sy’n golygu y bydd plant a’r cystadleuwyr proffesiynol yn cymysgu ac yn cystadlu yn yr un man. Nid yn unig bydd cyfle i’r bobl ifanc gwrdd â’r athletwyr proffesiynol sydd o safon fyd-eang ond bydd hefyd cyfle am sesiynau am ddim gyda nhw. Dw i’n meddwl bydd y Gemau Stryd yn ysbrydoli’r plant a’r athletwyr proffesiynol fel ei gilydd. Gobeithio y down ni o hyd i enillydd nesaf pencampwriaeth sgwter y DU i ddilyn ôl fy nhraed hefyd! Os ydych wir yn rhoi’ch bryd ar un o’r campau yma, mae’n bosib llwyddo.

 

Byddi di’n beirniadu’r cystadlaethau sgwter yn y Gemau Stryd – am beth fyddi di’n chwilio?

Mae’n anrhydedd cael beirniadu’r cystadlaethau sgwter Gemau Stryd yr Urdd. Byddaf yn chwilio am driciau mawr, pethau sy’n gwneud i mi feddwl ‘waw!’, pethau sy’n cyffroi’r dorf a gwneud iddynt gymeradwyo. Mae glanio’n daclus hefyd yn allweddol yn ogystal â chysondeb drwyddi draw.

 

Fyddi di hefyd yn cynnig sesiynau blas ar reidio sgwter yn ystod y ddau ddiwrnod?

Byddaf! Gall unrhyw un fynd ar sgwter, felly os ydych chi newydd gael eich sgwter cyntaf ac eisiau dysgu’r sgiliau sylfaenol neu efallai eich bod yn hyderus ar y sgwter ac eisiau dysgu triciau newydd, beth bynnag yw eich gallu galwch heibio i 'ngweld i a byddaf yn hapus i rannu fy sgiliau gyda chi a’ch dysgu. Cofiwch ddod â’ch sgwter a’ch helmed a’ch padiau gyda chi, dw i bob amser yn pwysleisio mor bwysig yw hi i’w defnyddio gan fy mod i wedi torri ambell i asgwrn dros y blynyddoedd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×