Seren Olympaidd i feirniadu Gemau Stryd yr Urdd

Seren Olympaidd i feirniadu Gemau Stryd yr Urdd

James Jones

BEICIWR BMX PROFFESIYNOL

james-jones.jpg
UN O BLE’R WYT TI?

Cefais fy ngeni a’m magu yn Abertawe. Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae pobl yn fy holi wrth i mi deithio’r byd gyda fy ngwaith yw ‘Wyt ti’n siarad Cymraeg?’ ond yn anffodus dydw i ddim yn siarad yr iaith. Hoffwn i fedru gwneud.

SUT DECHREUODD Y DIDDORDEB MEWN BEICIO BMX?

Yn rhyfedd iawn, mae’r diddordeb yn deillio o chwarae pêl-droed ar bwys parc sglefrio! Byddwn yn mynd ar y beic BMX i chwarae pêl-droed, dim ond ei ddefnyddio i fynd o gwmpas y lle a dweud y gwir. Pan o’n i’n 14 oed, dechreuais botsian ar y rampiau ar ôl chwarae pêl-droed. O dipyn i beth fe wnes i roi’r gorau i ddod â’r ‘sgidiau pêl-droed a threulio mwy o amser ar y rampiau a dw i heb edrych yn ôl ers hynny.  

 

PRYD Y DECHREUAIST TI GYSTADLU?

Dechreuais gystadlu mewn gornestau a drefnwyd gan y cyngor lleol. Nid mater o wneud triciau’n unig yw cystadlu ar lefel broffesiynol, mae gofyn cynnal rhediad llawn dop o flaen y beirniaid am 1 munud cyfan. Mae hynny’n waith caled sydd wrth gwrs yn golygu bod angen bod yn ffit ac yn iach er mwyn medru cyflawni hynny, mae’n cymryd tipyn o ymroddiad.

 

FELLY, ROEDDET TI’N EITHAF ‘HWYR’ YN CYCHWYN?

Oeddwn, a bod yn deg ro’n i’n eithaf hwyr ar y sin proffesiynol a BMX. Mae nifer yn broffesiynol erbyn cyrraedd 17 oed, ac roeddwn i tua 20 oed pan ddechreuais gael cefnogaeth gan noddwyr a chystadlu ar y lefel uchaf. Mae hyn yn dangos felly nad yw hi fyth yn rhy hwyr i ddechrau ac ystyried y gamp fel gyrfa.

 

BETH YW’R UCHAFBWYNTIAU I TI HYD YN HYN?

Mae gen i ddau brif uchafbwynt. Cyrraedd y Gemau Olympaidd yw’r cyntaf.

Mae’r ail yn un rhyfedd, mae’n deillio o ddamwain gas.  Torrais asgwrn fy nghefn mewn dau fan yn ystod gornest, a’r uchafbwynt oedd mynd yn ôl ar gefn y beic yn dilyn hynny. Mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch ohono, dybiwn i.

 

DW I’N SIŴR BOD TIPYN O WAITH YMARFER YNGHLWM Â’R GAMP?

Rydw i’n ymarfer tua 4/5 gwaith yr wythnos, yn beicio 2-4 awr y dydd yn y parc sglefrio, yn defnyddio pyllau sbwng a rampiau resi (ramp sydd yn fwy meddal na ramp pren).  Dw i hefyd yn mynd i’r gampfa ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos er mwyn cynnal lefel fy ffitrwydd. Fel gydag unrhyw swydd, mae’n lot o waith, ond dw i wrth fy modd. 

 

MAE BOD YN RHAN O FYD Y BMX WEDI RHOI CYFLEOEDD I TI DEITHIO HEFYD…

Mae’r cyfleoedd dw i wedi eu cael drwy fy ngyrfa BMX yn anhygoel! Dw i wedi cael teithio’r byd i lefydd fel Tokyo, Dubai… i gymryd rhan mewn sioeau yn ystod penwythnosau rasio Fformiwla Un, pantomeimiau gyda Bradley Walsh, nifer o hysbysebion teledu, ac ambell nawdd anhygoel!

 

PA GYNGOR FYDDET TI’N EI ROI I BLANT A PHOBL IFANC SY’N AWYDDUS I DDECHRAU BEICIO BMX?

Y cyngor gorau sydd gen i i’w gynnig i unrhyw blentyn sydd eisiau bod yn feiciwr proffesiynol fel fi, yw eu bod yn gwneud yn siŵr nad yw dod yn broffesiynol yn cymryd yr hwyl allan o feicio BMX. Mae’n bwysig cofio mai’r rheswm i ti ddechrau beicio oedd oherwydd dy fod yn mwynhau bod ar gefn y BMX. Rwyt ti’n fwy tebygol o lwyddo os wyt ti’n mwynhau yr hyn yr wyt yn ei wneud – a gwisga helmed bob tro!

 

BETH WYT TI’N EI FEDDWL AM GEMAU STRYD YR URDD?

Mae’n anhygoel fod yr Urdd yn trefnu’r digwyddiad hwn yng Nghymru, yng nghanol Caerdydd, mae’n beth gwych i’r gamp. Mae beicio BMX yn hynod o anodd, ac mae cymaint o athletwyr yn ymroi’n llwyr i’r gamp. Dyma gyfle gwych i ddangos i bobl Cymru a thu hwnt bod gennym athletwyr anhygoel, y tu hwnt i rygbi a phêl-droed, ym myd y campau eithafol yng Nghymru.

 

BYDDI DI’N BEIRNIADU’R CYSTADLAETHAU BMX YN Y GEMAU STRYD HEFYD, AM BETH FYDDI DI’N CHWILIO?

Rydw i wedi beirniadu sawl cystadleuaeth dros y blynyddoedd. Fel arfer ceir 4-5 beirniad yng nghystadlaethau cwpan y byd ac maen nhw’n arbenigo mewn gwahanol elfennau fel arddull, uchder, techneg ac ati.

Fydda i’n edrych am rediad llawn, dim camgymeriadau.

 

BYDDI DI HEFYD YN CYMRYD RHAN MEWN DEMOS AC YN ARWAIN RHAI SESIYNAU I ROI BLAS AR Y GAMP, A ALL UNRHYW UN GYMRYD RHAN?

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch chi cyn dod i roi cynnig arni. Gallaf eich dysgu sut i reidio BMX o’r cychwyn cyntaf, neu os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar 360, fe wna i drio ’ngore i’ch helpu i gyflawni hynny mewn diwrnod!

Bydd y demos yn anhygoel i’w gwylio o’r dorf, mae rhai o athletwyr gorau’r byd yn dod i arddangos eu talent yn y parc sydd wedi ei adeiladu’n benodol ar gyfer yr ŵyl gan gwmni Team Extreme. 

 

PA MOR BWYSIG YW DEFNYDDIO’R DIGWYDDIAD HWN I YSBRYDOLI’R GENHEDLAETH NESAF?

Mae’n rhaid i ni ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, byddai’n hunanol i beidio â gwneud. Gadewch i ni beidio ag anghofio eu hysbrydoli, dyma ein cyfle.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×