Seren Dirty Vegan – Matt Pritchard yng Ngemau Stryd yr Urdd

Seren Dirty Vegan – Matt Pritchard yng Ngemau Stryd yr Urdd

SGLEFRFYRDDIWR PROFFESIYNOL A SEREN DELEDU

SGLEFRFYRDDIWR PROFFESIYNOL A SEREN DELEDU

prichard.jpg
DWED YCHYDIG BACH AM DY FAGWRAETH

Bachgen o Gaerdydd ydw i! Yma ces i fy ngeni, fy magu, a dw i’n dal i fyw yma. Dw i’n falch iawn mai un o’r brif ddinas ydw i ac yn hynod o gyffrous fod yr Urdd yn cynnal y Gemau Stryd yma.

CEFAIST DY FAGU AR AELWYD OEDD YN SIARAD CYMRAEG A MYND I YSGOL GYMRAEG?

Do! Un o’r ‘gogs’ yw Mam – o Drefor yng Ngogledd Cymru. Un o Geredigion yw Dad, o ardal Aberystwyth, ac roeddem i gyd yn siarad Cymraeg adref. Es i i ddwy ysgol Gymraeg, Ysgol Bro Eirwg a Glantaf. Dw i’n meddwl y dylai pob plentyn fynd i ysgol Gymraeg!


RWYT TI WEDI TEITHIO’R BYD FEL SGLEFRFYRDDIWR, WYT TI’N DAL I SIARAD CYMRAEG?

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi colli fy hyder wrth siarad Cymraeg. Dyw fy ffrindiau ddim yn siarad yr iaith a does dim cymaint â hynny o gyfleoedd wedi bod i ddefnyddio’r iaith oni bai am gyda fy nheulu, sy’n drueni. Dw i wir yn siomedig nad ydw i’n gallu ymarfer yn amlach, a dyna reswm arall pam dw i wrth fy modd i fod yn gweithio gyda’r Urdd ar y Gemau Stryd cyntaf yng Nghymru.

 

SUT Y GWNEST TI DDECHRAU SGLEFRFYRDDIO?

Fel unrhyw blentyn 15 oed arferol yn tyfu i fyny ger y Rhath yng Nghaerdydd, byddwn yn treulio’r rhan fwyaf o fy amser allan ar y strydoedd gyda fy ffrindiau – fwy neu lai yn union fel y mae plant heddiw yn ei wneud! Roedd bwrdd sglefrio gyda fy ffrind Damien ac unwaith i mi gael tro, roeddwn wedi gwirioni. Doedd Mam ddim yn fodlon i mi gael un! Roedd hi’n meddwl ei fod yn rhy beryglus, ond unwaith iddi fy ngweld ar y bwrdd sglefrio, fe gytunodd, ond roedd yn rhaid i mi brynu un fy hun! Roedd gen i rownd bapur a rownd laeth ac fe wnes i gynilo am oesoedd i gael fy mwrdd fy hun.

 

PAM WYT TI’N DWLU CYMAINT AR Y GAMP?

Mae rhywbeth newydd i’w ddysgu o hyd a chymaint o driciau gallwch chi eu gwneud ar y byrddau, mae’n gamp gyffrous iawn i fod yn rhan ohoni ac yn ffordd dda i gadw’n ffit wrth gael hwyl. Roedden ni’n arfer treulio bob penwythnos yn ymarfer ar lethrau Caerdydd, ger yr orsaf drenau. Dyna ble y gwnes i gwrdd â rhai o fy ffrindiau gorau.

 

PRYD WNEST TI DDECHRAU CYSTADLU?

Ro’n i’n 21. Roedd car gyda fy ffrindiau felly byddem yn teithio i gystadlaethau yn Lloegr, doedd dim llawer o gyfleoedd yng Nghymru. Dyna pam dw i mor falch fod Gemau Stryd yr Urdd yn cael eu cynnal yn fy nhref enedigol. Bydd plant a sglefrfyrddwyr proffesiynol yn medru cystadlu a dysgu sgiliau yn yr un lle, mae’n mynd i fod yn epig! Gobeithio byddwn yn ysbrydoli ac yn darganfod sglefrfyrddwyr proffesiynol y dyfodol.

 

A WNEST TI ERIOED DDYCHMYGU CAEL DY DALU I SGLEFRFYRDDIO?

Dim o gwbl! Doeddwn i ddim yn academaidd, fy mreuddwyd i oedd bod yn styntiwr neu’n gogydd! Es i i goleg arlwyo, rwy’n frwd dros fwyd a dw i wedi ffilmio fy rhaglen deledu Dirty Vegan yn ddiweddar.   

Digwyddodd y cyfan pan oeddwn i’n cystadlu yn Northampton yn 21 oed. Ces i gynnig nawdd am y tro cyntaf, breuddwyd oedd cael fy nhalu i wneud yr hyn yr oeddwn wrth fy modd yn ei wneud ac fe arweiniodd hynny at gael teithio’r byd, cystadlu, gwneud styntiau ac wrth gwrs cyfres deledu ‘Dirty Sanchez’. Mae’n wallgof sut y digwyddodd hynny ar ôl i sgowt talent MTV gysylltu â fi ar ôl gweld un o fy fideos triciau sglefrfyrddio gwirion! Dwyt ti byth yn gwybod ble gall y campau yma dy arwain.

 

PA GYNGOR FYDDET TI’N EI ROI I BLANT A PHOBL IFANC SY’N AWYDDUS I DDECHRAU SGLEFRFYRDDIO?

Ymarfer! Dyw’r triciau ddim yn hawdd ond mae’n werth yr ymdrech. Mae sglefrfyrddio wedi datblygu tipyn ers o’n i’n blentyn. Mae’n cael ei dderbyn nawr ac mae parciau sglefrio go iawn ar gael a llefydd diogel i ymarfer. Defnyddiwch y cyfleusterau hyn a byddwch chi’n siŵr o wneud ffrindiau da yno hefyd. Bydd digon o gyfleoedd i gystadlu a chymryd rhan yn y sesiynau blas ar sglefrfyrddio yn y Gemau Stryd, felly dewch i roi cynnig arni.

 

SUT WYT TI’N TEIMLO AM FOD YN RHAN O GEMAU STRYD CYNTAF CYMRU?

Dw i’n methu aros! Mae’n wych fod yr Urdd yn cynnal y Gemau, ac roeddwn wrth fy modd pan ges i wybod mai nhw fyddai’n ei drefnu. Mae’n golygu y bydd llawer mwy o bobl yn dod i wybod am y mudiad ieuenctid arbennig hwn sy’n rhoi cymaint o gyfleoedd anhygoel i blant a phobl ifanc i ymwneud â’n hiaith a’n diwylliant. Mae’r Gemau Stryd yn wahanol i unrhyw beth arall y mae’r Urdd yn ei wneud, mae’n sicrhau fod ein campau stryd a’r Gymraeg yn hygyrch i bawb. Mae’n wych i Gaerdydd, yn wych i’n pobl ifanc a bydd yn denu rhai o enwau mwyaf y campau yma i gystadlu a darganfod Cymru. Dw i’n edrych ymlaen at ddod â fy mwrdd gyda fi a gwylio pawb yn mwynhau sglefrfyrddio yn ein prif ddinas ni - fy nhref enedigol lle dechreuodd y cyfan i fi!

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×