Ychwanegu Dawnsio Stryd i Gemau 2023

Ychwanegu Dawnsio Stryd i Gemau 2023

Yn dilyn llwyddiant ysgubol cystadleuaeth y Breakin’ yng Ngemau Stryd y llynedd, ry’n ni’n falch iawn cyhoeddi ein bod ni’n ychwanegu Dawnsio Stryd i’r amserlen eleni!

 

Mae Dawnsio Stryd yn cynnwys ystod eang o arddulliau dawnsio cymdeithasol, gan gynnwys Breakin’. Mae hyn yn caniatáu rhyddid i symud ac i ddawnswyr fynegi eu hunain, gan hyrwyddo rhyngweithio â dawnswyr a gwylwyr eraill.

 

Fe fydd y gystadleuaeth yn digwydd ar lwyfan arbennig o flaen Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 17eg Mehefin.

 

Yn beirniadu’r cystadlu bydd beirniaid profiadol iawn wedi eu trefnu gan UK Breakin’.

 

Mae’r gystadleuaeth ar agor i ddeuawdau a grwpiau i berfformio hyd at 4 munud gan ddefnyddio cerddoriaeth Gymraeg neu offerynol.

 

Categorïau a phris cystadlu;

- Deuawd 12 oed ac yn hŷn (£10)

- Grwp; hyd at 15 o aelodau

            - 11 ac iau (£30)

            - 12 oed ac yn hŷn (£30)

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×