WCMX

WCMX

Sglefrfyrddio Addasol yng Ngemau Stryd yr Urdd

Fel rhan o Gemau Stryd yr Urdd bydd WCMX a Sglefrfyrddio Addasol yn cael eu harddangos ar Ddydd Sul 19 Mehefin ym mhrif Parc sglefrio'r digwyddiad.

Yma mi fydd arddangosiadau a sesiynau blasu ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan. Lily Rice fydd yn arwain y sesiynau ac yn rhannu'r cyngor a gymerodd hi i ddod yn Bencampwr y Byd.

lilly-profile.jpg

Mae Lily yn disgrifio WCMX fel “sglefrfyrddio ond mewn cadair olwyn." Glaniodd ei fflip am nôl (backflip) cyntaf yn 2017, ac wrth wneud, fe lwyddodd i fod y ferch gyntaf yn Ewrop i wneud hyn. Yn ddiweddar fe wnaeth Ben Sleet, sy'n ddeuddeg mlwydd oed, cwblhau’r run tric a phrofi i fod y person ieuengaf yn Ewrop i lanio fflip am nô​​​​​​​l​​​​​​​ mewn cadair olwyn. Mae WMCX yn bendant yn un i wylio yn Gemau Stryd yr Urdd eleni! Edrychwn ymlaen yn arw at weld pobl yn rhoi cynnig ar y gamp a trio rhywbeth newydd dros benwythnos y Gemau Stryd. Mae’r sesiynau yn agored i bawb.

Beth wnaeth dy ysbrydoli i gymryd rhan mewn WCMX?

Gweld fideo ar lein wnes i a meddwl ei fod yn edrych yn cŵl ac eisiau rhoi cynnig arni. Llwyddais i lanio fflip am nôl am y tro cyntaf ar ôl 4 mis o ymarfer sy’n eithaf cŵl ac mae pethau wedi datblygu ers hynny. Rydw i wrth fy modd! 

 

Pa mor anodd yw hi a beth yw’r elfen fwyaf heriol? 

Dw i’n meddwl mai’r peth anoddaf mewn unrhyw gamp yw hunanhyder, yn enwedig ym myd campau eithafol. Mae hyder yn bendant yn hanfodol, fodd bynnag mae modd magu hyder drwy ddechrau gyda chamau bach a gweithio dy ffordd i fyny yn raddol. Rho gynnig arni!                                  

 

Pryd y gwnest ti ddechrau cystadlu a beth yw’r uchafbwyntiau hyd yn hyn?

Dechreuais gystadlu mewn cystadlaethau WCMX yn 2018 gan ddod yn bencampwraig Ewrop y flwyddyn honno ac yna yn bencampwraig WCMX y Byd yn 2019.

 

Sut wyt ti’n teimlo am Gemau Stryd yr Urdd a pham ei bod yn bwysig i gynnal digwyddiad fel hwn yng Nghymru? 

Mae’n bwysig i gael digwyddiadau fel Gemau Stryd yr Urdd yng Nghymru gan ei fod yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac yn cynyddu’r nifer o bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc. Mae iechyd meddwl yn bwnc mawr ar hyn o bryd, ac mae tystiolaeth yn dangos y gall chwaraeon ac ymarfer corff helpu i wella iechyd meddwl unigolion felly'r gorau po fwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan!

 

Byddi di’n arwain rhai sesiynau i roi blas ar y gamp yn ystod y penwythnos, a all unrhyw un gymryd rhan a beth fyddi di’n ei ddysgu iddynt? Oes angen iddyn nhw ddod ag unrhyw beth penodol?

Gall unrhyw un gymryd rhan mewn WCMX a Sglefrfyrddio Addasol ac mae digwyddiadau fel Gemau Stryd yr Urdd yn fan cychwyn perffaith.  Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw helmed ac agwedd bositif!! 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×