Bowldro yn newydd | Amserlen gemau stryd 2023

Bowldro yn newydd | Amserlen gemau stryd 2023

Bowldro – Cyrraedd yr uchelfannau

Fe fydd Gemau Stryd 2023 yn cynnwys gweithgareddau a chystadlaethau newydd, gan gynnwys bowldro.

 

Dechreuodd bowldro fel ffordd i ddringwyr ymarfer symudiadau penodol mewn ffordd ddiogel cyn datblygu yn gamp unigryw. Gwelwyd bowldro dan-do ar amserlen Gemau Olympaidd Tokyo.

 

Yn dilyn gwaith trywlwyr a pharatoi manwl, ar y cyd â Flashpoint, Caerdydd, a Chymdeithas Fynydda Prydain, mae’r Urdd yn falch iawn o allu ychwanegu bowldro i gasgliad cystadlaethau Gemau Stryd 2023.

 

Fe fydd y gystadleuaeth, a chynhelir ar noson agoriadol y Gemau, yn agored i ddringwyr o bob safon gydag amrywiaeth o broblemau i’w datrys ar y wal ddringo. Bydd croeso i ddringwyr newydd a phrofiadol ymuno â ni a chymryd rhan.

 

Yn ystod y cystadlu bydd DJs a cherddorion Cymraeg yn perfformio yn safle Flashpoint, gyda’r gwaith o gydlynu’r gerddoriaeth a’r artistiaid yng nogfal Tafwyl.

 

Dywedodd Tom Birkhead, Urdd; “Ry’n ni falch iawn o fedru ychwanegu bowldro i’n amserlen gystadlu ar gyfer Gemau Stryd 2023. Roedd y gemau agoriadol y llynedd yn llwyddiant ysgubol ond rydyn ni am barhau i wella’r digwyddiad o flwyddyn i flwyddyn a sicrhau ein bod ni’n cynnwys amrywiaeth eang o gampau.”

 

Ychwanegodd Caryl McQuilling, Prif Swyddog Tafwyl; “Mae campau llawn cynnwrf, fel bowldro, yn haeddu trac sain addas i godi’r tempo a chyffroi’r dorf a’r cystadleuwyr. Pleser yw cael cyd-weithio gyda’r Urdd i drefnu a chydlynu’r artisiaid ar gyfer noson agoriadol y gemau.”

 

Bowldro yn Flashpoint, Nos Wener 16eg Mehefin, 2023.

  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×