Ar ôl weld miloedd o bobl dod i Bae Caerdydd i wylio ac i gymryd rhan yn yr ŵyl rydym nawr yn barod i groesawu chi i gofrestru ar gyfer y cystadleuaeth 2023!

Ar ôl weld miloedd o bobl dod i Bae Caerdydd i wylio ac i gymryd rhan yn yr ŵyl rydym nawr yn barod i groesawu chi i gofrestru ar gyfer y cystadleuaeth 2023!

Gemau Stryd yr Urdd 2022

Cyn y Gemau

Yn arwain at y Gemau wnaethom ni ymweliad a ysgolion a cymunedau i gyflwyno’r campau wahanol i bobl ifanc yng Nghymru ac i hyrwyddo’r digwyddiad. Gwnaeth y gweithgareddau cael eu cynnal yn 25 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru gyda dros 750 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau sglefrfyrddio, Flatland BMX a Breaking. Welodd ni plant a phobl ifanc mwynhau’r campau newydd ac o ganlyniad mynychu’r Gemau Stryd yr Urdd.
 

Y Cystadlu

Ar benwythnos Gemau Stryd yr Urdd 2023 welsom ni perfformiadau anhygoel gan athletwyr a chyfranogwyr profiadol yn ogystal â rhai mwy amhrofiadol! Welsom ni plant a phobl ifanc yn troi ei llaw at Pel-fasged 3x3, Breaking, BMX Steilrydd, Sglefrfyrddio a Sgwter. Roedd o’n bleser weld y dalent sydd o fewn Gymru a thu hwnt gyda James Jones, Jordan Sharkey, Holly Pipe a Jamie Hull yn dangos eu doniau ar y parc sglefr fyrddio! Yn yr ardaloedd Breaking a Phêl-fasged 3x3 wnaeth pobl ifanc o dan 18 dangos i ni safon uchel o gystadlu.
 

O gwmpas yr Ŵyl!

Gweithdai Parkour/BMX/WCMX/Pêl-fasged Cadair Olwyn 3x3/Sglefrfyrddio, set DJ, arlwywyr ac arddangoswyr! Digon i bawb mwynhau yn ystod Gemau Stryd yr Urdd. Cafodd criw ifanc o Gymru'r cyfle i ddysgu sut i fod yn DJ gyda’r cyfle i chwarae i’r dorf. Croesawodd cwmnïau lleol, plant a phobl ifanc i ddysgu sut i sglefrfyrddio, defnyddio beic BMX a sut i neud trics Parkour! Yn ogystal â’r gerddoriaeth a’r sesiynau blasu roedd cyfle i gyfranogwyr prynu bwyd, cael beic eu trwsio, cael byrddau sglefrfyrddio ei addurno gan ‘Grip Wizard’ a gwylio dylunydd celf stryd yn dangos eu doniau.

 

Cyfle i weld y Cystadleuaeth yn ôl

 

Adroddiad Gemau Stryd yr Urdd 2022

Am rhagor o wybodaeth plîs welwch adroddiad Gemau Stryd yr Urdd 2022: Darllenwch mwy!

 

  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
  • slide
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×